Encil YMCA yn Elan
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 30 Hydref 2018
Daeth grŵp YMCA Stepping Up ar encil i Gwm Elan ar ddechrau mis Hydref. Cyrhaeddodd grŵp o oedolion ifanc, gwirfoddolwyr a staff o Sutton Coldfield yn barod am rhai diwrnodau llawn gweithgareddau wedi’u trefnu o ganŵio i gystadleuaeth dalent.
Arweiniodd y tiwtoriaid Jenny Dingle a Polly Williams y grŵp ar gyfer antur goedwig ar y prynhawn cyntaf. Cafwyd hwyl yn gwneud modelau clai, ffenestri dail, naddu cyllyll menyn a llawer mwy.
Y diwrnod wedyn, fe aeth hanner y grŵp i ganŵio gyda Steve o’r ‘Elan Valley Lodge’ ac fe aeth yr hanner arall am daith o gwmpas yr ystâd a cherdded trwy argae Pen y Garreg gydag un o geidwaid Dwr Cymru, Fiona. Roedd y ddau’n gyfle gwych i weld Ystâd Elan ac i ddysgu mwy am y dreftadaeth.
Y diwrnod canlynol, fe wnaeth y grŵp rannu eto gyda rhai yn cymryd rhan mewn crefft byw yn y gwyllt gyda Paul Reynolds a Matt Rising ble wnaethant ddysgu am dân a gwneud ychydig o goginio. Fe wnaeth gweddill y grŵp sialensiau raffau uchel oedd yn cynnwys y wifren sip a sialens pentyrru crâtiau. Gwaith tîm gwych yn ogystal â hwyl a dysgu sgiliau newydd.
Yr hyn oedd yn anhygoel am y grŵp hwn oedd eu hegni, brwdfrydedd a’u parodrwydd i roi cynnig ar bopeth.