Pobl ifanc yn mwynhau yn y goedwig
Written by Tir Coed / Dydd Mercher 07 Gorffennaf 2021
Roeddem ni’n falch iawn o allu croesawu grŵp o bobl ifanc o Futureworks i dreulio diwrnod hyfryd yn y goedwig yr wythnos ddiwethaf, lle cawsant gyfle i roi cynnig ar sgiliau coetir a choedwriaeth.
Bu’r grŵp yn cymryd rhan mewn sesiwn flasu sgiliau gwaith coed coetir a sgiliau ymarferol yn yr awyr agored, creu eu morthwylion pren eu hunain, adeiladu cysgod a chymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau coetir fel tîm.
Daeth y diwrnod i ben wrth i’r grŵp dostio malws melys, neu s’mores, o amgylch y tân - ond gan mai gweithgaredd Tir Coed oedd hwn, roedd yn rhaid iddyn nhw greu a goleuo’r tân eu hunain cyn dechrau.
Roeddem ni wrth ein boddau’n croesawu’r grŵp Futureworks ar y safle. Roedd hi’n bleser gweithio gyda phobl ifanc a oedd mor frwdfrydig ynglŷn â gweithgareddau awyr agored.
“Am ddiwrnod gwych gyda’r myfyrwyr blwyddyn 11 heddiw,” meddai cydlynydd P&Q Futureworks, Aidan George.
“Roedd hi’n braf eu gweld nhw’n mwynhau eu hunain ar ôl 18 mis anodd iawn.
“Diolch i Tir Coed am drefnu diwrnod llawn hwyl a roddodd ryddid i’r dysgwyr i fynegi eu hunain, chwerthin, adeiladu sgiliau, ac yn bwysicaf oll, i fwynhau eu hunain.
“Rydym ni’n edrych ymlaen yn barod at ein taith nesaf i’r coed!”