Dilyniant Adeiladu Meinciau - Sir Benfro
Hydref 15, 2018 - Hydref 23, 2018
Mae hwn yn gwrs dilyniant wedi'i gynllunio i bobl sydd wedi bod ar gyrsiau blaenorol Tir Coed neu sydd a rhywfaint o brofiad mewn gwaith coed fydd yn cael ei gynnal yn Y Ganolfan Bywyd Gwyllt, Cilgerran. Fel pob un o'n cyrsiau, mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at bobl sy'n ddi-waith neu'n dan gyflogedig ac a diddordeb mewn gwaith coed. Bydd llefydd yn cael eu dyrannu yn ddibynnol ar yr angen. Mae modd i ni gynnig rhywfaint o gymorth trafnidiaeth.
O dan arweiniad ein tiwtoriaid profiadol, bydd cyfranogwyr yn defnyddio coed lleol i adeiladu meinciau picnic gwledig fydd yn rhodd i'r Ganolfan Bywyd Gwyllt. Bydd hyn yn gyflwyniad i waith coed irlas a sgiliau fframio pren ar brosiect raddfa fechan.
Math: Progression Week
Safle: Pembrokeshire
Dyddiau Cyrsiau sydd i Ddod