AnTir

Ym mis Tachwedd 2021, cyflwynodd Tir Coed beilot dichonoldeb ar gyfer prosiect AnTir; peilot 12 mis o hyd.

Datblygodd a chyflwynodd Tir Coed ddau gwrs newydd sbon – garddio er budd bywyd gwyllt a thyfu bwyd yn organig – a datblygodd unedau dysgu achrededig ar eu cyfer. Fe wnaethom hefyd dreialu rhaglen wirfoddoli wedi'i seilio ar arddio.


Fel rhan o fanc tir a llafur Tir Coed (sy’n cysylltu hyfforddeion di-waith â ffermwyr a rheolwyr tir sydd angen cymorth), penododd Tir Coed gynghorydd gwledig i gynnal ymgynghoriad gyda ffermwyr a rheolwyr tir. Siaradwyd â 100 o bobl er mwyn canfod pa sgiliau fydd eu hangen yn y dyfodol, ac felly pa hyfforddiant y dylid ei ddarparu o dan brosiect AnTir.

Bu'r rhaglen wirfoddoli yn llwyddiannus wrth annog pobl i gymryd rhan mewn prosiectau tyfu cymunedol lleol, gan gynnig parhad a sbarduno diddordebau a chyfeillgarwch newydd. Er na fu'r rhaglen mor llwyddiannus o ran canlyniadau cyflogadwyedd, gwelwyd gwelliant amlwg yn lles y cyfranogwyr.


Fodd bynnag, bu’r cyrsiau hyfforddi mor llwyddiannus wrth roi sgiliau a hyfforddiant i bobl fel eu bod yn barod am waith, nes i nifer o’r cyfranogwyr adael y cyrsiau yn ystod y rhaglen oherwydd eu bod wedi sicrhau cyflogaeth â thâl.

Ymwelwyd â nifer o safleoedd ledled Ceredigion, gan feithrin cysylltiadau cyffrous ar gyfer y dyfodol. Roedd rhai safleoedd yn cynnal gweithgareddau rheolaidd, tra roedd eraill yn cynnal digwyddiadau untro.

Bu Tir Coed yn gweithio’n agos gyda nifer o ganolfannau teuluol, gan ddod â’r gweithgareddau at y bobl. Roedd hyn yn ein galluogi i ymgysylltu â llawer o bobl a rhoi cynnig ar wahanol ddulliau i weld beth oedd yn gweithio orau.

Rhoddodd y peilot hefyd gyfle i ni ddatblygu ymhellach safle hyfforddi a lles Gardd Tŷ Llwyd, gan adeiladu ar y gwaith paratoi llwyddiannus a ariannwyd drwy grantiau Gwobrau i Bawb a Cadwch Gymru’n Daclus.


Yn ystod y peilot, cyflwynodd prosiect dichonoldeb AnTir gyrsiau byrrach ‘parod am waith’, a ddylanwadodd ar y ffordd yr oedd Tir Coed yn cynllunio ac yn datblygu hyfforddiant yn y dyfodol. O ganlyniad, daeth y cyrsiau dilynol yn fyrrach ac yn canolbwyntio mwy ar baratoi cyfranogwyr ar gyfer cyflogaeth.

Yn ystod y peilot, datblygodd Tir Coed hefyd ei grŵp cynghori a sefydlu partneriaethau gydag amrywiaeth o sefydliadau a phrosiectau, gan gynnwys Cyngor Tref Aberystwyth a Gŵyl Go & Grow.

Ar y cyfan, bu’r peilot yn llwyddiant mawr wrth lunio prosiect AnTir a pharatoi Tir Coed i bontio o’i waith presennol i’r rhaglenni ehangach a gyflwynwyd drwy AnTir.

Eisiau gwybod mwy am ein cyrsiau?

Diddordeb?

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed