Cyfarfod canol ffordd gyda'r Royal Forestry Society

Written by Tir Coed / Dydd Llun 09 Gorffennaf 2018

Ar ddydd Mawrth tanbaid aeth uwch staff Tir Coed a Swyddog Datblygu Dysgu am Goed ar daith i Leominster i gwrdd ag aelodau o’r Royal Forestry Society, y Rheolwr Datblygu, Jen a Chydlynydd Prosiect Teaching Trees, Corrine.


Dros y 9 mis diwethaf mae Tir Coed wedi bod yn cyflwyno peilot o brosiect Dysgu am Goed mewn partneriaeth â’r RFS sydd â’r nod i gynnig sesiynau dwy awr yn y goedwig sydd â chysylltiad â’r cwricwlwm Cymreig i bob ysgol gynradd yng Ngheredigion. Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiannus iawn yn Lloegr ac y mae partneriaeth Dysgu am Goed wedi sicrhau bod y ddarpariaeth ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cysylltu â’r rhannau gwahanol yn y cwriciwlwm yng Nghymru.

Daeth y grŵp at ei gilydd i adolygu’r prosiect wrth i’r flwyddyn academaidd ddod at ei derfyn ac i edrych ar gyfleoedd y dyfodol ar gyfer y bartneriaeth ar ôl i gyllid Cynnal y Cardi ddod i ben yn Hydref 2019. Eisteddodd y grŵp o dan Onnen hyfryd i drafod y manteision cadarnhaol y prosiect hyd yn hyn ac i ddysgu am y diwylliannau gwahanol y mae’r sefydliadau’n eu cynrychioli.


Hyd yn hyn, mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant mawr gyda chyfanswm o 212 o blant wedi cymryd rhan yn y prosiect ar draws Ceredigion a 25 aelod o staff yr ysgolion. Mae’r adborth o’r plant a’r athrawon i gyd wedi bod yn gadarnhaol iawn.

Fi wedi mwynhau dysgu am y coed gwahanol fel y gerddinen.
Mae’n ddiddorol dysgu/ymarfer sut i fesur coed ac adnabod y dail gwahanol.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed