Cynhesrwydd yng Nghoed y Gaeaf - Lansio Cwrs 12 Wythnos Rheoli Coetir Cynaliadwy.

Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 28 Ionawr 2020

Mae’r 10 hyfforddai wedi cychwyn y cwrs yn awyddus i ddysgu mwy ac ymarfer sgiliau fydd yn ei helpu i greu prosiectau ei hun, wrth wella fframwaith y coetir a'r strwythurau pren sy'n ffurfio'r ystafell ddosbarth awyr agored hon.

Trwy gyfres o gemau a gweithgareddau byddant yn dysgu sut i adnabod coed a phlanhigion, dewis pa rywogaethau i'w torri brysglwyni a pha rai i'w ffafrio ar gyfer canopi'r coetir yn y dyfodol. Hefyd fydd y grŵp yn gwella llwybrau mynediad ac agor y coetir i fwy o bobl fwynhau a chael mwy o ymdeimlad o les.


Wrth iddynt weithio trwy raglen hyfforddi strwythuredig 12 wythnos bydd tudalennau eu llyfrau gwaith yn dod yn fyw gyda lluniadau, ffotograffau a syniadau sy'n eu galluogi i ennill cymhwyster wedi'i achredu gan Agored Cymru.

Wnaeth un graddedig o gwrs flwyddyn ddiwethaf dweud:

Rydw i yn aml yn sbïo ar y waithlyfr, i fy atgoffa o beth wnaethom ni a’r ffrindiau wnes i greu. Mae’n gwthio fi ymlaen.

Mae bellach yn cymryd rhan mewn mwy o hyfforddiant coetir ac mae ganddo swydd ran amser yn gweithio gyda grwpiau yn yr awyr agored.


Gan weithio ochr yn ochr â mentor Tir Coed llwyddodd i nodi cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a chyllid pellach i helpu i dalu am y costau hynny. Mae'r sgiliau a'r hyder y mae wedi'u hadeiladu iddo'i hun ar ein cyrsiau wedi ei helpu i ddod o hyd i waith y mae'n ei fwynhau.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed