Mae Tir Coed yn darparu sesiynau awyr agored sy'n seiliedig ar y cwricwlwm i grwpiau ysgol ac yn darparu hyfforddiant i staff yr ystafell ddosbarth fel y gallant gynnal dysgu yn yr awyr agored.

Yn Ysgol Gyfun Harri Tudur mae Tir Coed yn gweithio gyda grwpiau o Flynyddoedd 7, 8 a 9 fel rhan o brosiect "Llwybrau" yr ysgol sy'ncysylltu unigolion ag anghenion uchel â chyfleoedd dysgu mwy addas fel gweithgareddau ymarferol sy'n seiliedig ar sgiliau.


"Bob wythnos mae'r sesiwn yn darparu cyd-destun go iawn, pwrpasol
yr ydym yn ei gymryd yn ôl i'r dosbarth. Mae'r tasgau dilynol yn
ymgysylltu'n llawn gan eu bod wedi'u gwreiddio ym mhrofiadau go
iawn y disgyblion." – Athro Dosbarth, ysgol uwchradd Sir Benfro

Mae Tir Coed yn gweithio gydag Ysgolion Cynradd ac Uwchradd, Unedau Cyfeirio
Disgyblion, Grwpiau Addysg Ddewisol yn y Cartref, Canolfannau Teulu, Meithrinfeydd a Chanolfannau Ieuenctid.

Mae'r gweithgareddau'n cynnwys: -        

  • Sesiynau coetir pwrpasol undydd         
  • Rhaglenni dysgu yn yr awyr agored tymor byr neu hirdymor          
  • Hyfforddiant Staff 

Os oes gennych ddiddordeb mewn darparu dysgu yn yr awyr agored yn
eich ysgol, cysylltwch â ni


Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed