Croeso nôl Ffion

Written by Tir Coed / Dydd Mercher 04 Ebrill 2018

     

Mae’n dda bod yn ôl yn Tir Coed yn dilyn blwyddyn hyfryd ar gyfnod Mamolaeth yn enwedig ar amser hynod o brysur a chyffroes i’r sefydliad.

Rhaid i fi ddweud diolch enfawr i Leila sydd wedi bod yn edrych ar ôl Tir Coed yn dda iawn yn fy absenoldeb ac i’r tîm o staff sy’n tyfu sydd wedi parhau i ddarparu gweithgareddau lles wedi’i deilwra o safon uchel i amryw eang o grwpiau, hyfforddiant sgiliau coetir wedi’i achredu a hyfforddiant dilyniant sector benodol.

  

Rydw i ‘nawr yn dychwelyd 3 diwrnod yr wythnos ac yn edrych ymlaen at arwain Tir Coed wrth iddi ddarparu cam 1 o brosiect LEAF ar draws Sir Benfro a Cheredigion, a phrosiect Elan Links ar draws Powys, Dysgu am Goed sy’n gweithio gydag ysgolion ar draws Ceredigion a dau brosiect ymchwil.

Mae’n wych gweld Tir Coed yn parhau i fynd o nerth i nerth ac mae cyfleoedd gwych ar y ffordd – gwyliwch y gofod!

  

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed