Croeso i'r Goedwig - Ceredigion

Written by Tir Coed / Dydd Iau 22 Tachwedd 2018

Mae Cwrs Croeso 5 diwrnod Ceredigion newydd ddod i ben.

Cynhaliwyd y cwrs yn ein coedwig 53 erw, Coed Tyllwyd ger Llanfarian. Cyflwynwyd y cwrs gan ein tiwtor hynod wybodus, Rob Smith gyda chefnogaeth Anna Thomas.


Cyflwynwyd y 5 i’r goedwig gyda thaith o gwmpas y goedwig, y gweithdai a’r caban. Fe wnaethant ddysgu’r gwahanol rywogaethau o goed ac enillwyd peth dealltwriaeth o ddiogelwch y safle a sut y mae’r goedwig yn cael ei reoli.


Yn ystod y dyddiau cyntaf, fe wnaeth yr hyfforddai cyfrannu at asesiad risg ac yna rhoi’r hyn a ddysgon ar waith drwy glirio llwybrau o lystyfiant fel drysi a dail poethion ar gyfer mynediad cyhoeddus. Gyda ffocws ar iechyd a diogelwch  fe ddysgon nhw sut i gwympo a thorri coed bach gyda bwyell a llif fwa a sut i symud pentwr o goed yn barod i dymheru.


Cafwyd hefyd gyflwyniad i waith coed irlas a defnyddio’r coed yr oeddent wedi cwympo i ddatblygu sgiliau fel hollti, cerfio gyda haearn hollti a bwyell i greu blocyn i’w ddefnyddio ar y turn polyn. Dros y diwrnodau diwethaf, fe wnaeth pob person weithio ar brosiect coed irlas unigol, treuliwyd amser yn cerfio stolion un goes neu dair coes a chanwyllbrennau i fynd adref gyda nhw. Fe wnaeth bawb fwynhau’r 5 diwrnod a gorffennwyd yr wythnos yn hapus gyda phawb yn derbyn tystysgrifau cyrhaeddiad.



Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed