Cynhadledd Dysgu yn yr Awyr Agored
Written by Tir Coed / Dydd Iau 26 Ebrill 2018
Er y bore cynnar, roeddwn yn falch o gael teithio i Ogledd Cymru ar ddiwrnod braf o wanwyn i gymryd rhan mewn cynhadledd hollol wahanol i’r arfer yng Nghoed Llwynonn, Llanfairpwll, Ynys Môn.
Treuliwyd y bore yn y babell yn gwrando ar ddiweddariad wrth grwpiau rhanbarthol Dysgu Awyr Agored y gogledd a tri siaradwr gwadd. Sue Williams o Gyngor Cymru dros Ddysgu yn yr Awyr Agored oedd y siaradwraig gyntaf ac mi wnaeth hi sôn am y ffyrdd o allu addysgu plant ar safon uchel allan yn yr awyr agored. Ar ôl hyn, fe wnaeth Adam Shepherd o Ysgol T. Gwynn Jones, Hen Golwyn sôn am y ffordd yr oedd ef wedi cyflwyno dysgu yn yr awyr agored yn yr ysgol. Soniodd bod yr ysgol yn awr yn dysgu bron i 40% o’u hamserlen yn yr awyr agored. Y siaradwr olaf oedd Ian Keith Jones o Ysgol San Siôr, Llandudno, sy’n rhedeg sw yn yr ysgol. Plant yr ysgol sydd yn rhedeg y sw ac y maent yn gwerthu’r wyau y mae’r ieir yn eu dodwi.
Yn dilyn y cyflwyniadau hynod ddiddorol hyn, cawsom ein rhannu’n grwpiau llai i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol yng nghrombil y goedwig. Y gweithgaredd gyntaf i mi gymryd rhan ynddi oedd Celfyddydau Mynegiannol. Yn y sesiwn hon, roedd pwyslais ar anifeiliaid a’u cynefinoedd. Buom yn chwilio am lythrennau ymysg y coed, yn dysgu ffeithiau am anifeiliaid y goedwig, yn perfformio’r anifail ac yna’n creu’r anifail bychan allan o glai. Er nad ydw i’n berson creadigol iawn, fe wnes i fwynhau’r gweithgareddau ac wedi’u casglu llawer o syniadau ar gyfer sesiynau Dysgu am Goed.
Yn dilyn cinio hynod flasus, yr oedd yn amser cymryd rhan yng ngweithgaredd olaf y dydd. Y tro hwn, dewisais ymuno â gweithgaredd Iechyd a Lles. Yn ystod rhan gyntaf y gweithgaredd, fe glywsom am bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid y goedwig yn ogystal â’n hiechyd a lles ni fel unigolion. Fe esboniwyd sut i esbonio hyn i blant gan ddefnyddio anifeiliaid y goedwig fel enghraifft. Yn ail hanner y gweithgaredd, fe fuom yn creu basgedi a daliwr bwyd adar allan o helyg. Mi wnes i fwynhau’r gweithgaredd hon yn fawr iawn er iddi ddechrau bwrw erbyn y diwedd. Yr oedd yn brofiad gwych gallu bod yn rhan o weithgareddau hynod lesol ac rwy’n awgrymu bod pawb yn mynd allan i ffeindio helyg er mwyn creu basgedi a daliwr bwyd adar.
Yn dilyn y gynhadledd, rwy’n edrych ymlaen at allu defnyddio’r gweithgareddau hyn mewn sesiynau Dysgu am Goed yn y dyfodol agos ac yn edrych am helyg i mi allu eu gwau bob man rwy’n mynd. Gan fy mod yn gweithio’n y swyddfa rhan fwyaf o’r amser, roedd treulio diwrnod yn yr awyr agored wedi gwneud lles mawr i mi - ewch i wneud yr un peth!