Ymweliad i Gymediathas Small Woods

Written by Tir Coed / Dydd Gwener 01 Mehefin 2018

Ar ddydd Gwener braf a heulog ym mis Mai, fe deithiodd Cadeirydd, Is-gadeirydd a Prif Swyddog Gweithredol Tir Coed dros y ffin i gefn gwlad hyfryd Ironbridge i ymweld â phencadlys darluniadwy Cymdeithas Small Woods - Y Ganolfan Goed Irlas.

Fe wnaeth Tir Coed gyfarfod â John Blessington (Cadeirydd), Phil Tidey (Ymddiriedolwr) a Ian Baker (Prif Swyddog Gweithredol), i ddysgu mwy am waith ehangach Cymdeithas Small Woods ac i drafod posibiliadau wrth symud ymlaen.

Dechreuodd y diwrnod gyda thaith o gwmpas y safle, gan ddysgu am yr adeiladau gwahanol sy’n cynnwys caffi annibynnol neis iawn yn gweini coffi blasus (roedd angen y coffi ar ôl y siwrnai hir!) y dreftadaeth a’r prosiectau ymchwil y mae’r elusen yn rhan ohonynt ar hyn o bryd ar y safle. Dysgodd Tir Coed hefyd am y rhaglen prentisiaeth gyda gweithgareddau cyfweliadau’n digwydd ar y diwrnod hwnnw.


Yn dilyn y daith cyffroes a amlygodd y tebygrwydd rhwng y ddwy elusen aeth y grŵp i gael trafodaethau wedi’i ffocysu yn yr ystafell gyfarfod a oedd wedi’i amgylchynu gan gwrwgl hyfryd.

Rhoddwyd cyflwyniadau byr gan Ian a Ffion ar y gwaith a chyfeiriad strategol o’i sefydliad cynrychioliadol cyn agor y drafodaeth ar sut y gall sefydliadau coedwigaeth gyd weithio mewn hinsawdd a’r heriau amgylcheddol a gwleidyddol yn cynyddu i barhau i gefnogi coedwigoedd a phobl i’r dyfodol a chefnogi tyfiant y sector.


Parhaodd y trafodaethau dros ginio iachus wedi’i ddarparu gan y caffi cyn mynd am dro byr o amgylch y coetir wedi’i gopi o gwmpas, Ironbridge Gorge.


Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed