Astudiaethau Achos
DI-WAITH > COEDWIGWR CYMDEITHASOL A PHERCHENNOG COEDLAN
Di-waith
▸ Prosiect Tir Coed
▸ Cwrs llif gadwyn Tir Coed
▸ Gweithiwr cynorthwyol Tir Coed
▸ Arweinydd gweithgareddau Tir Coed
▸ Perchennog coedlan
▸ Cyflogaeth gyda menter gymdeithasol Tir Coed, Wisewoods Wales
▸ Hunangyflogedig
“Dechreuais wirfoddoli gyda Tir Coed ar ddechrau'r gaeaf a dim posibiliad o unrhyw beth tebyg i waith ystyrlon ar y gorwel. Wedi siwrnai gyffrous roeddwn yn ennill cyflog i fyw gan gyflawni gwaith ystyrlon yn yr awyr agored! Dw i'n dal i weithio gyda Tir Coed yn hyfforddwr llawrydd ar adegau nawr, rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, a dwi'n berchen ar goedlan fy hunan.”Darllenwch y stori gyfan fan hyn


PROBLEMAU IECHYD MEDDWL > GWEITHIWR CYNORTHWYOL TIR COED A MENTER GOETIROL
Di-waith gyda phroblemau iechyd meddwl a chorfforol
▸ 2 x cwrs hyfforddi Tir Coed
▸ Achrediad lefel un mewn rheoli coetiroedd cynaliadwy a lefel 2 cadwraeth ymarferol
▸ gwirfoddoli ar ddiwrnodau agored a digwyddiadau Tir Coed
▸ yn derbyn hyfforddiant ar hyn o bryd i fod yn weithiwr cynorthwyol ar gyfer Tir Coed & wedi derbyn cefnogaeth i ddatblygu menter goetirol gyda 3 cyfranogwr arall o brosiectau Tir Coed
“Mae Tir Coed wedi helpu fi i oresgyn rhai problemau personol, dw i wedi dioddef o broblemau iechyd meddwl a chyflyrau corfforol dros amser hir. Ers i mi ddechrau mynychu'r sesiynau mae fy iechyd meddwl wedi gwella'n fawr ynghyd â'm cyflwr corfforol a dw i wedi derbyn addysg ardderchog hefyd. Dw i'n dysgu mwy am fywyd gwyllt a rheoli coetiroedd bob dydd, dros y flwyddyn diwethaf dw i wedi bod yn ymwneud mwy a mwy gyda gwirfoddoli wrth i'm iechyd wella, dyma'r lles y mae Tir Coed yn gwneud i'm bywyd i ac eraill. ”Darllenwch y stori gyfan fan hyn
DI-WAITH > GWEITHIWR GWASANAETHAU COEDWIGAETH
Diweithdra
▸ Prosiect Tir Coed
▸ Gwirfoddoli ar gyfer Tir Coed
▸ Gweithiwr cynorthwyol Tir Coed a hyfforddiant
▸ Prentisiaeth coedwigaeth Tir Coed
▸ Swydd gyda chwmni coedwigaeth
“Mae'r brentisiaeth wedi agor drysau i mi gyda gwaith coedwigaeth go iawn, wedi rhodi llu o gyfleoedd i mi a dw i wedi cwrdd â phobl newydd, felly dw i wedi cael mwy o gysylltiadau lleol. Cefais llond trol o hwyl a dysgais llawer.”Darllenwch y stori gyfan fan hyn


WEDI DISWYDDO > ARWEINYDD GWEITHGAREDDAU TIR COED
Derbyn diswyddiad
▸ mynychu nifer o gyrsiau Tir Coed
▸ hyfforddwr cynorthwyol llawrydd
▸ Arweinydd gweithgareddau Tir Coed
“Dw i ddim wedi buddsoddi rhyw lawer yn fy addysg na fy natblygiad personol dros y blynyddoedd diwethaf, ond ers gweithio/dysgu gyda VINETir Coed dw i wedi dysgu llawer iawn! Mae'r cynllun hefyd wedi fy nghynorthwyo i ennyn hyder yn fy sgiliau ac o ganlyniad dw i wedi datblygu fy musnes garddio a dw i newydd orffen fy swydd tirlunio cyntaf. Mae'n anodd dod o hyd i rhywle i ddysgu'r sgiliau mae Tir Coed yn eu dysgu, roedd y rhan fwyaf ohonynt yn ran o fywyd bob dydd rhyw 30 – 40 mlynedd yn ôl, ond erbyn hyn wedi mynd yn angof.”Darllenwch y stori gyfan fan hyn
MAM SENGL DI-WAITH > HYFFORDDWR TIR COED TUTOR & CREFFTWRAIG PREN LLWYDDIANNUS
Di-waith
▸ Prosiect Tir Coed
▸ Prosiect dilyniant Tir Coed (Hadau)
▸ Gweithiwr cynorthwyol Tir Coed
▸ Hunangyflogedig ac yn gwerthu cynhyrchion coetirol
▸ Hyfforddwr Tir Coed
“Fel crefftwraig hunangyflogedig tlawd, roedd cymryd rhan ym mhrosiect Medi'r Ddawn yn ddiddorol ac yn amhrisiadwy i mi. Ar un ochr y teulu roedd fy nghyndadau yn glocswyr ac yn seiri troliau, ac ar yr ochr arall roeddent yn ffermwyr a choedwigwyr, mae'r profiad wedi dod a mi yn agosach i'm hanes fy hun.”Darllenwch y stori gyfan fan hyn


DI-WAITH > SAER & CREFFTWR HUNANGYFLOGEDIG
Di-waith
▸ Cwrs hyfforddi Tir Coed
▸ Crefftwr tlawd & saer rhan-amser
▸ Prosiect dilyniant crefft Hadau Tir Coed
▸ Hunangyflogedig yn gwerthu crefftau pren irlas yn lleol
“Dysgodd Tir Coed llawer i mi am yr hyn roeddwn eisiau ei wneud gyda fy mywyd. Bu hefyd yn ysbrydoliaeth i mi benderfynu fy mod yn medru cyflawni fy amcanion. Bu'r sgiliau a ddysgais ar y cwrs o gymorth i mi gael peth gwaith rhan amser yn adeiladu toiledau cwrtaith fframyn pren unigolyddol, bu'n hwb mawr i'm hyder ac yn ysbrydoliaeth i ddatblygu hobi yn fusnes dichonadwy.”Darllenwch y stori gyfan fan hyn
WEDI DADYMAFAEL Â'R COLEG > GWEITHIWR COETIR HUNANGYFLOGEDIG
Wedi dadymafael â'r coleg
▸ Prentisiaeth Tir Coed
▸ yn hunangyflogedig yn gweithio'n hapus gyda grwpiau mewn coedlannau
“Mae wedi cynyddu fy hyder a'm sgiliau cymdeithasol, ynghyd â'm ymdeimlad o hunan-werth; dw i wedi esgyn ym mhell uwchben fy nisgwyliadau bychain. Trwy'r arddangosiadau dw i wedi datblygu sgiliau i ryngweithio fel aelod o dîm ac arweinydd, mae rhyngweithio gyda'r cyhoedd nawr yn brofiad llawer mwy cyfforddus i mi. Mae fy lleoliad gwaith wedi bod yn gyfnod hollbwysig, gan alluogi i mi ddatblygu sgiliau a fydd yn ddefnyddiol ym mha bynnag faes dw i'n dewis ei ganlyn. Dw i wedi gwneud cysylltiadau fydd yn galluogi i mi ennill gwaith yn y dyfodol.”


TAD YN EI ARDDEGAU A NEET > GWEITHIWR COETIR HUNANGYFLOGEDIG
NEET & tad yn ei arddegau
▸ Cwrs hyfforddi Tir Coed
▸ Prentisiaeth Tir Coed
▸ Cwrs llif gadwyn
▸ Gweithiwr coetir a gweithiwr llif gadwyn
“Mae gwybod bod gen i sylfaen gadarn ar gyfer gyrfa mewn coedwigaeth yn tynnu peth o'r ofn allan o fod yn dad yn fy arddegau. Dw i'n gwybod beth dw i eisiau ei wneud nawr – gweithio yn y coed. Roedd cwrdd â phobl newydd a gwneud cysylltiadau yn rhan mawr o'r profiad, ac mae ennill tystysgrif llif gadwyn yn ddefnyddiol iawn. Mae'r brentisiaeth wedi rhoi fy meddwl ar waith ac wedi rhodi'r hyder a'r cyfrifoldeb i mi symud ymlaen.”