Blogiau
CYSTADLEUAETH LLUN GORFFENAF
Mae'n fis newydd, sy'n golygu thema a gwobr newydd sbon ar gyfer ein cystadleuaeth ffotograffau! Thema'r mis hwn yw "RHYFEDDODAU NATURIOL". Tagiwch ni a defnyddiwch #TirCoedCalendar am eich cyfle i ennill 2 docyn plant am ddim i Manor Wildlife Park yn Ninbych-y-pysgod - yr unig saffari cerdded Cymru! P'un a ydych chi'n caru lemwr, yn hoff iawn o deigrod neu'n awyddus i grwydro gyda'r wallabies (a'u bwydo gyda'ch llaw!) Mae gan y parc hwn rywbeth i chi!
Read moreCwrs Coedwigaeth Ceredigion
Dechreuodd cwrs 12 wythnos Ceredigion wythnos diwethaf, yn digwydd yng Nghoed Tyllwyd, Llanfarian. Arweinir y cwrs gan Jamie Miller gyda chefnogaeth Cath Rigler, ac mae’r hyfforddai wedi cael ymdeimlad o’r cwrs a’r hyn y byddan nhw’n adeiladu. Dros yr 11 wythnos nesaf, bydd yr hyfforddai yn ymgymryd ag amryw o dasgau ymarferol gan gynnwys adeiladu grisiau, meinciau a storfeydd coed. Gobeithio bydd y tywydd braf yn parhau.
Read moreCroeso i Goed Tyllwyd
Ymunodd 7 o hyfforddeion â Wil Nickson ac Anna Thomas yng Nghoed Tyllwyd, Llanfarian ar gyfer cwrs Croeso i’r Goedwig. Datblygodd yr hyfforddai sgiliau gwaith coed irlas ac fe dyfodd eu hyder yn ystod y cwrs. Cwblhawyd cyfanswm o 148 awr dros gyfnod o 5 diwrnod ac mi fydd 3 o’r hyfforddai yn symud ymlaen i’r cwrs Coedwigaeth 12 wythnos yng Nghoed Tyllwyd.
Read moreCroeso Cynnes i’r Coed
Yn y coed yn Scolton, wnaeth 6 hyfforddai gwario 166 o oriau yn dysgu am waith coed irlas. Wnaeth tiwtoriaid Claire Turner a Tracy Styles arwain y grŵp i ehangu ei sgiliau a’i hyder i ddefnyddio offer llaw yn saff. Diolch yn fawr I Jerry Roberson am y lleoliad ac am ddarparu'r coed oedd angen i gwblhau'r prosiect. Diolch yn fawr hefyd I Richard Woolley am luniau anhygoel!
Read moreCwrs dilyniant Coedwigaeth Gymdeithasol Sir Benfro.
Cwblhaodd 7 o’n hyfforddeion dros 183 awr o Gwrs Dilyniant Coedwigaeth Gymdeithasol Sir Benfro yng Nghoed Scolton yn dilyn eu llwyddiant yn y cwrs Rheoli Coetiroedd Cynaliadwy achrededig 12 wythnos!
Read morePowys yn ffarwelio â chwrs 12 wythnos arall!
Daeth y cwrs cyntaf 12 wythnos Powys ym 2019 i ben ar 10 Ebrill, gyda'r tiwtoriaid Phil Ward a Dave Hughes yn addysgu 10 o hyfforddeion cadwraeth coetiroedd a sgiliau cefn gwlad yng Nghwm Elan. Yn ystod y cwrs 12 wythnos hwn, aeth ein hyfforddeion allan ym mhob tywydd, gan wella coetiroedd a chreu mynediad i ardaloedd o Gwm Elan fel rhan o Brosiect Elan Links!
Read moreDathliad diwedd cwrs Ceredigion!
Yn dilyn 12 wythnos anhygoel, ddydd Mawrth diwethaf fe wnaethom ddathlu llwyddiannau Cwrs Rheoli Coetiroedd Ceredigion ar ôl i 7 hyfforddai weithio dros 1,076 awr rhyngddynt!
Read moreCylchlythyr y Gaeaf 2018/19
Mae'r Cylchlythyr diweddaraf yma'n awr! Darllenwch ymlaen am ddiweddariadau ar y prosiectau a newyddion cyffroes.
Read moreWinter Newsletter
The latest newsletter is now available! Read through for updates and exciting news.
Read moreCwrs Rheoli Coetiroedd Cynaliadwy 12 wythnos, Ceredigion - Hanner Ffordd!
Am dîm! Mae yna waith gwych sydd wedi bod yn digwydd yng Nghoed Tyllwyd yn Llanfarian, gan hyfforddeion sydd hanner ffordd trwy'r cwrs rheoli coetiroedd cynaliadwy 12 wythnos yng Ngheredigion. Mae’r grŵp wedi bod yn ffocysu ar glirio llwybrau, halo coed a chreu pentyrrau cynefin gyda brash ar lan serth ym mhen deheuol y goedwig.
Read more