Blogiau
Cwrs Coedwigaeth Ceredigion - Bron wedi cwblhau!
O dan gyngor y fframiwr pren arbenigol Jamie Miller, gyda chefnogaeth Cath Rigler; mae 11 hyfforddeion cwrs coedwigaeth 12 wythnos Ceredigion eisoes wedi cyflawni cymaint. Mae'r cwrs yn rhedeg o'n safle coetir Coed Tyllwyd, yn Llanfarian, y gallem ei ddefnyddio diolch i Gyfoeth Naturiol Cymru.
Read moreCwrs Ecoleg - Ceredigion
Wnaeth 9 hyfforddeion gwario 204 oriau yn cwblhau cwrs dilyniant 4 diwrnod gan yr ecolegydd arbenigol Phil Ward: Cynhaliwyd Cyflwyniad i Ecoleg o safle coetir Coed Tyllwyd ger Llanfarian yng Ngheredigion.
Read moreGweithgareddau Celf a Chreft I Ysgol Llwyn yr Eos
Wedi rhedeg gan diwtoriaid Jenny Dingle a Maia Sparrow, mwynhaodd Uned Anghenion Arbennig yr ysgol weithgareddau celf a chrefft o'u gardd goedwig ar y safle. Y gwnaeth 36 cyfranogwyr cwblhau 36 awr yng nghyfan o weithgareddau.
Read moreCYSTADLEUAETH LLUN GORFFENNAF
Eisiau ennill 2 sesiwn blasu dwy awr am ddim gyda'r Ysgol Roc a Phop - The Rock Project? Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw tagio'ch llun gorau o "HWYL YR HAF YN YR HAUL" ar y cyfryngau cymdeithasol gyda'r #TirCoedCalendar am eich cyfle i ennill ac i ymddangos ar ein calendr 2020!
Read moreAm dro yn y goedwig gyda Bob Shaw
Ddoe, fe aeth grwp o staff Tir Coed i Goed Tamsin, Capel Seion i dreulio'r diwrnod gyda Bob Shaw. Cyn dysgu am offer a gwaith coed irlas, fe aeth Bob a phawb am dro o gwmpas y goedwig. Dyma fideo byr o'r daith.
Read more21 milltir - 21 mlynedd o les a dysgu
Mae'r cylchlythyr diweddaraf yn awr ar gael! Edrychwch i weld beth sydd wedi bod yn digwydd dros y 3 mis diwethaf gyda Tir Coed ac am ddiweddariad 6 mis ail flwyddyn LEAF.
Read more21 miles - 21 years of wellbeing & learning
The latest newsletter is now available! Take a look to find out what Tir Coed have been doing over the last 3 months and for a 6 month update of LEAF year 2.
Read moreCwrs achrededig 12 wythnos yn cychwyn yng Nghwm Elan!
Mae yna wedi bod llawer o gynnwrf o gwmpas y cwrs 12 wythnos achrededig ddiwethaf, efo 12 hyfforddai yn adeiladu tŷ crwn hardd gyda tho byw yn yr Elan Valley. Yr oedd yr adeiladu yn bendant yn cael teimlad o deulu Tir Coed, efo pren wedi’i darparu gan un o safleoedd Ceredigion Tir Coed a hyn ynghyd â dyluniad unigryw'r adeilad yn golygu bod gennym dros ddwbl yr ymgeiswyr na lleoedd!
Read moreCodi pontydd a chreu llwybrau
Ymunodd 11 o hyfforddeion â’n crws 12 wythnos mewn coedwigaeth yn Sir Benfro. Yn ystod y cwrs byddant yn dysgu’r holl sgiliau sydd ei angen arnynt i adeiladu 3 pont bren a chreu llwybr trwy’r goedwig i gysylltu gyda’r llwybrau sy’n bodoli’n barod i greu llwybr cylchol.
Rob Smith sy’n arwain y cwrs gyda Eugene Noakes yn diwtor cefnogol abl iawn.
Mae Jerry Roberson wedi bod yn hael iawn gan roi’r lleoliad i ni a darparu’r deunyddiau sydd eu hangen gan gynnwys coed crwm hyfryd i godi’r bont gefngrwm
Read moreCasglu Sbwriel am 21 milltir - Sut aeth hi?
Dw i'n siwr bod pawb yn meddwl tybed os yw'r 10 cynrhychiolwr Tir Coed wedi goroesi'r 21 milltir o gasglu sbwriel. Wel - mae'n nhw'n fyw ac wedi gorffen y daith mewn 8 awr 57 munud ac wedi casglu 12 bag llawn sbwriel. Fe dynnodd y tim at ei gilydd yn ystod y sialens i sicrhau bod neb yn cael eu gadael ar ol. Gallwch chi ddal gefnogi'r tim drwy cyfrannu at eu cronfa: www.justgiving.com/campaign/ti...
Read more