Blogiau

Cwrs achrededig 12 wythnos yn cychwyn yng Nghwm Elan!

Tir Coed | 12/06/2019

Mae yna wedi bod llawer o gynnwrf o gwmpas y cwrs 12 wythnos achrededig ddiwethaf, efo 12 hyfforddai yn adeiladu tŷ crwn hardd gyda tho byw yn yr Elan Valley. Yr oedd yr adeiladu yn bendant yn cael teimlad o deulu Tir Coed, efo pren wedi’i darparu gan un o safleoedd Ceredigion Tir Coed a hyn ynghyd â dyluniad unigryw'r adeilad yn golygu bod gennym dros ddwbl yr ymgeiswyr na lleoedd!

Read more

Codi pontydd a chreu llwybrau

Tir Coed | 07/06/2019

Ymunodd 11 o hyfforddeion â’n crws 12 wythnos mewn coedwigaeth yn Sir Benfro. Yn ystod y cwrs byddant yn dysgu’r holl sgiliau sydd ei angen arnynt i adeiladu 3 pont bren a chreu llwybr trwy’r goedwig i gysylltu gyda’r llwybrau sy’n bodoli’n barod i greu llwybr cylchol.

Rob Smith sy’n arwain y cwrs gyda Eugene Noakes yn diwtor cefnogol abl iawn.

Mae Jerry Roberson wedi bod yn hael iawn gan roi’r lleoliad i ni a darparu’r deunyddiau sydd eu hangen gan gynnwys coed crwm hyfryd i godi’r bont gefngrwm

Read more

Casglu Sbwriel am 21 milltir - Sut aeth hi?

Tir Coed | 05/06/2019

Dw i'n siwr bod pawb yn meddwl tybed os yw'r 10 cynrhychiolwr Tir Coed wedi goroesi'r 21 milltir o gasglu sbwriel. Wel - mae'n nhw'n fyw ac wedi gorffen y daith mewn 8 awr 57 munud ac wedi casglu 12 bag llawn sbwriel. Fe dynnodd y tim at ei gilydd yn ystod y sialens i sicrhau bod neb yn cael eu gadael ar ol. Gallwch chi ddal gefnogi'r tim drwy cyfrannu at eu cronfa: www.justgiving.com/campaign/ti... 

Read more

CYSTADLEUAETH LLUN GORFFENAF

Tir Coed | 03/06/2019

Mae'n fis newydd, sy'n golygu thema a gwobr newydd sbon ar gyfer ein cystadleuaeth ffotograffau! Thema'r mis hwn yw "RHYFEDDODAU NATURIOL". Tagiwch ni a defnyddiwch #TirCoedCalendar am eich cyfle i ennill 2 docyn plant am ddim i Manor Wildlife Park yn Ninbych-y-pysgod - yr unig saffari cerdded Cymru! P'un a ydych chi'n caru lemwr, yn hoff iawn o deigrod neu'n awyddus i grwydro gyda'r wallabies (a'u bwydo gyda'ch llaw!) Mae gan y parc hwn rywbeth i chi!

Read more

Cwrs Coedwigaeth Ceredigion

Tir Coed | 27/05/2019

Dechreuodd cwrs 12 wythnos Ceredigion wythnos diwethaf, yn digwydd yng Nghoed Tyllwyd, Llanfarian. Arweinir y cwrs gan Jamie Miller gyda chefnogaeth Cath Rigler, ac mae’r hyfforddai wedi cael ymdeimlad o’r cwrs a’r hyn y byddan nhw’n adeiladu. Dros yr 11 wythnos nesaf, bydd yr hyfforddai yn ymgymryd ag amryw o dasgau ymarferol gan gynnwys adeiladu grisiau, meinciau a storfeydd coed. Gobeithio bydd y tywydd braf yn parhau.

Read more

Croeso i Goed Tyllwyd

Tir Coed | 15/05/2019

Ymunodd 7 o hyfforddeion â Wil Nickson ac Anna Thomas yng Nghoed Tyllwyd, Llanfarian  ar gyfer cwrs Croeso i’r Goedwig. Datblygodd yr hyfforddai sgiliau gwaith coed irlas ac fe dyfodd eu hyder yn ystod y cwrs. Cwblhawyd cyfanswm o 148 awr dros gyfnod o 5 diwrnod ac mi fydd 3 o’r hyfforddai yn symud ymlaen i’r cwrs Coedwigaeth 12 wythnos yng Nghoed Tyllwyd.

Read more

Croeso Cynnes i’r Coed

Tir Coed | 13/05/2019

Yn y coed yn Scolton, wnaeth 6 hyfforddai gwario 166 o oriau yn dysgu am waith coed irlas. Wnaeth tiwtoriaid Claire Turner a Tracy Styles arwain y grŵp i ehangu ei sgiliau a’i hyder i ddefnyddio offer llaw yn saff. Diolch yn fawr I Jerry Roberson am y lleoliad ac am ddarparu'r coed oedd angen i gwblhau'r prosiect. Diolch yn fawr hefyd I Richard Woolley am luniau anhygoel!

Read more

Cwrs dilyniant Coedwigaeth Gymdeithasol Sir Benfro.

Tir Coed | 01/05/2019

Cwblhaodd 7 o’n hyfforddeion dros 183 awr o Gwrs Dilyniant Coedwigaeth Gymdeithasol Sir Benfro yng Nghoed Scolton yn dilyn eu llwyddiant yn y cwrs Rheoli Coetiroedd Cynaliadwy achrededig 12 wythnos!

Read more

Powys yn ffarwelio â chwrs 12 wythnos arall!

Tir Coed | 29/04/2019

Daeth y cwrs cyntaf 12 wythnos Powys ym 2019 i ben ar 10 Ebrill, gyda'r tiwtoriaid Phil Ward a Dave Hughes yn addysgu 10 o hyfforddeion cadwraeth coetiroedd a sgiliau cefn gwlad yng Nghwm Elan. Yn ystod y cwrs 12 wythnos hwn, aeth ein hyfforddeion allan ym mhob tywydd, gan wella coetiroedd a chreu mynediad i ardaloedd o Gwm Elan fel rhan o Brosiect Elan Links!

Read more

Dathliad diwedd cwrs Ceredigion!

Tir Coed | 29/04/2019

Yn dilyn 12 wythnos anhygoel, ddydd Mawrth diwethaf fe wnaethom ddathlu llwyddiannau Cwrs Rheoli Coetiroedd Ceredigion ar ôl i 7 hyfforddai weithio dros 1,076 awr rhyngddynt!

Read more

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed