Blogiau
Menywod yn y Goedwig - Cath Seymour
Dechreuais i gyda chreu cyllell fenyn, a wedyn llwy, a wedyn ges I’r cyfle I roi cynnig ar y polyn turn a dyna ni, dod dim troi nôl... Do’n I byth yn meddwl fy mod I’n greadigol ond drwy fenthyg syniadau bobl eraill a’u creu’n unigryw... Mae rhwybeth am ddilyn y graen a natur y goed sy’n reddfol ac yn foddhaol iawn.
Read more
Menywod yn y Goedwig - Cath Rigler
Teimlais gysylltiad syth gyda ffocws cyfartal Tir Coed ar y goedwig eu hun - nid yn unig y manteision mae coedwigoedd yn eu rhoi i bobl, ond hefyd y manteision mae pobl yn eu rhoi i’r goedwig... Hefyd, dw i wedi clywed nifer o goedwigwyr gwrywaidd, sydd wedi gweithio yn y sector ers blynyddoedd, yn dweud pethau fel: “Os nad ydw i’n nabod y person yna’n barod, se well da fi weithio gyda merch, dyn nhw ddim yn dibynnu ar gyhyrau cymaint ag yn aml mae’r dechneg yn well ac meant y defnyddio’u pennau’n fwy"
Read more
Menywod yn y Goedwig - Anna Thomas
Dw i wedi caru bod allan ym myd natur erioed. Ysbrydoliaeth fy ngwaith celf ers amser yw ffurfiau natur, yn enwedig y ffordd y mae pethau’n tyfu... Roedd y newid a wnaeth Tir Coed i fy mywyd yn wefreiddiol, fe wnaeth bod allan yn y coed fy newid i... Byddwn i’n argymell yn fawr i ferched gymryd rhan yn y sector goedwigaeth. Mae’n le gwych i ailgysylltu â natur. Dechrau cyfeillgarwch newydd a chael eich ysbrydoli.
Read more
Menywod yn y Goedwig - Anna Prytherch
Ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel Rheolwr Prosiect ar gyfer Iechyd a Gofal Gwledig Cymru, sydd wedi’i ariannu gan bedwar bwrdd iechyd. Yn fam sy’n gweithio, roedd gofal plant bob tro yn broblem pna odd y plant yn ifanc... Dw i hefyd yn meddwl o fewn byd Busnes, mae rhagfarn rhywedd yn dal i fodoli ar lefel ystafell fwrdd/uwch o Reolaeth. Pan ofynnwyd i fi a fyddwn i’n ystyried fod yn Ymddiriedolwr i Tir Coed, adolygais ei amcanion a theimlais yn unol â’r rhain.
Read more
Menywod yn y Goedwig - Angie Martin
Ai galwad yw addysg neu swydd? Wel, yr ateb i mi yw, galwad, gan fy mod i’n dueddol o weld popeth fel cyfleoedd dysgu, sy’n golygu bod y posibiliadau i gyfrannu at y broses yn ddiddiwedd... Dw i’n gwybod fy mod i’n mynd i’r afael â phethau mewn ffordd greadigol, ac i fi, mae hyn yn ei wneud yn broses bleserus. Felly, se raid i fi roi un darn o gyngor i chi . . .“Peidiwch cyfyngu’ch hun i ffiniau dychmygol y rôl, cofiwch fod sgiliau’n drosglwyddadwy, felly dilynwch eich greddf ac ewch wneud rhywbeth unigryw a mwynhewch!”
Read more
Diweddariad hanner ffordd - Cwrs Cadwraeth Coedwig a Sgiliau Cefn Gwlad Powys
Mae amser yn hedfan pryd ti’n cael hwyl ac mae hyn yn sicr yw’r achos efo’r cwrs Tir Coed cadwraeth coedwig a sgiliau cefn gwlad! Rydym fethu credu fod ni yn barod wedi cyrraedd hanner ffordd! Mae’r cwrs wedi cael pob math o dywydd yn barod, o eira i dywydd heulog iawn ac er gwaethaf, mae’r 11 hyfforddeion wedi bod yn brysur yn gweithio o gwmpas y stad!
Read more
Diwrnod olaf Cwrs Rheoli Coetiroedd Cynaliadwy 12 wythnos Sir Benfro!
Roedd yr haul allan, roedd pizza wedi ei coginio, rhoddwyd cwtch i bawb a chafodd dagrau eu sied. Diwrnod olaf Cwrs Rheoli Coetiroedd Cynaliadwy 12 wythnos Sir Benfro oedd diwrnod emosiynol ar gyfer pawb oedd yn cymryd rhan ac nid oedd yr hyfforddai am i'r cyfan ddod i ben!
Read more5 mis i fynd
581 o unigolion wedi ymgysylltu ym mhrosiect Dysgu am Goed ers Hydref 2017. Gyda 5 mis ar ôl, mae'r tim yn gweithio'n galed iawn i archebu sesiynau ar gyfer yr ysgolion sy'n weddill.
Read more
LEAF nawr yn Sir Gaerfyrddin!
Mae ail flwyddyn prosiect LEAF wedi cychwyn yng Ngheredigion, Sir Benfro a Powys, ac mae’r flwyddyn datblygiad yn Sir Gaerfyrddin wedi dechrau. Bydd Nancy, sydd yn gweithio ar y prosiect yn Sir Benfro, yn gyfrifol am gynnal arolwg yn y sir. Os ydych eisiau cysylltu â Nancy am ein gwaith yn Sir Gaerfyrddin, gallwch e-bostio hi ar [email protected]
Read more
Y dechreuad o gwrs 12 wythnos Powys!
Mae cwrs 12 wythnos Powys wedi dechrau yng Nghwm Elan! Mae 9 o hyfforddwyr - efo 3 mwy yn ymuno yn fuan - mae pawb wedi cael profiad o'r tywydd sydd yn newid yn aml yng Nghanolbarth Gymru. Ond dydy hyn ddim wedi torri ysbrydion ac rydym yn edrych ymlaen at eich diweddaru dros yr wythnosau nesaf!
Read more