Blogiau

Powys yn ffarwelio â chwrs 12 wythnos arall!
Daeth y cwrs cyntaf 12 wythnos Powys ym 2019 i ben ar 10 Ebrill, gyda'r tiwtoriaid Phil Ward a Dave Hughes yn addysgu 10 o hyfforddeion cadwraeth coetiroedd a sgiliau cefn gwlad yng Nghwm Elan. Yn ystod y cwrs 12 wythnos hwn, aeth ein hyfforddeion allan ym mhob tywydd, gan wella coetiroedd a chreu mynediad i ardaloedd o Gwm Elan fel rhan o Brosiect Elan Links!
Read more
Dathliad diwedd cwrs Ceredigion!
Yn dilyn 12 wythnos anhygoel, ddydd Mawrth diwethaf fe wnaethom ddathlu llwyddiannau Cwrs Rheoli Coetiroedd Ceredigion ar ôl i 7 hyfforddai weithio dros 1,076 awr rhyngddynt!
Read more
Cylchlythyr y Gaeaf 2018/19
Mae'r Cylchlythyr diweddaraf yma'n awr! Darllenwch ymlaen am ddiweddariadau ar y prosiectau a newyddion cyffroes.
Read more
Winter Newsletter
The latest newsletter is now available! Read through for updates and exciting news.
Read more
Cwrs Rheoli Coetiroedd Cynaliadwy 12 wythnos, Ceredigion - Hanner Ffordd!
Am dîm! Mae yna waith gwych sydd wedi bod yn digwydd yng Nghoed Tyllwyd yn Llanfarian, gan hyfforddeion sydd hanner ffordd trwy'r cwrs rheoli coetiroedd cynaliadwy 12 wythnos yng Ngheredigion. Mae’r grŵp wedi bod yn ffocysu ar glirio llwybrau, halo coed a chreu pentyrrau cynefin gyda brash ar lan serth ym mhen deheuol y goedwig.
Read more
Trosglwyddiad gwybodaeth un dydd - Echdynnu Gwifren Uchel yn Lloches Goed Nanteos
Fe wnaeth 5 o’n hyfforddeion ag un aelod o staff wedi cael mynediad i’r digwyddiad trosglwyddo gwybodaeth undydd hwn a gyflwynwyd gan MWMAC Ltd a wedi'i chyllidogan Focus Forestry First Ltd. ar Chwefror 19eg. Roedd yr amcan o’r diwrnod oedd cyfarwyddo’r cyfranogwyr efo ffyrdd o echdynnu gwifren uchel trwy ddefnyddio tractor efo system winch twmp. Yn gyffredinol, yr oedd y diwrnod yn ddiddorol ac adeiladol!
Read moreMenywod yn y Goedwig - Ruth
Roedd dysgu a gwneud hyn [cwrs hyfforddi 12 wythnos] yn rhyfeddol o rymus i mi ac fel merch ond hefyd wedi ymddeol ac yn fy 60au cynnar, do’n i byth yn meddwl y byddwn i’n torri prysglwyn a thorri coed, ro’n i’n meddwl taw gwaith dyn, y lumber Jack’s oedd e a dyma fi yn 60 oed yn lumber Jil... Mae’r coed a’r natur yn dod a llonyddwch.
Read more
Menywod yn y Goedwig - Polly Williams
Yn 2014, ces fy niswyddo o fy swydd fel ymgynghorydd digartref/tai ar gyfer elusen leol, roedd ‘da fi dau o blant ifanc ac roeddwn i’n barod am newid gyrfa... Dwi'n caru gweithio fel garddwr, tiwtor i Tir Coed a logio ceffyl. Rwy’n gobeithio fy mod yn ddigon lwcus i weithio yn yr awyr agored am weddill fy mywyd, ble dw i’n teimlo fwyaf ysbrydoliedig, cryf ac wedi ymlacio!
Read more
Women in the Woods - Jenny Dingle
Dw i wedi bod yn gweithio ym myd addysg awyr agored ers dros 35 mlynedd mwyach... Y coed a’r mynyddoedd sy’n rhoi ymdeimlad o berthyn i mi ac mae rhannu fy ‘nghartref’ gyda grwpiau dw i’n gweithio gyda nhw sy’n dod a llawenydd i mi ac mae’n teimlo fel peth da i’w wneud... Byddwn i’n annog merched eraill if od yn rhan o’r sector goedwigaeth. Mae’r goedwig yn le da i weithio. Mae’r sgiliau yn y gwaith hyn yn wobrwyol i’w dysgu.
Read more
Women in the Woods - Ffion Farnell
Ar y diwrnod hwn yn dathlu merched, byddwn i’n dweud - Gallwch chi wneud unrhyw beth yr ydych chi’n meddwl ddigon cryf amdano, felly dechreuwch nawr. Byddwch yn garedig i’ch hunan achos dy’n ni fel merched o dan dipyn o bwysau, rhowch amser i’r hyn sy’n eich gwneud chi’n hapus a byddwch yn ymwybodol eich bod chi'r un mor alluog, deallus, creadigol a chryf a’r dynion sydd o’ch cwmpas... Dw i wedi dod ar draws rhywiaeth ac oedraniaeth yn fy mywyd proffesiynol (er ar gyfer y rhan fwyaf ohono dw i wedi derbyn parch ac anogaeth) pan ddw i wedi, dw i wedi dal fy mhen yn uchel ac wedi codi uwch ben hyn, mae’r dystiolaeth, wedi’r cwbl... yn y pwdin.
Read more